Gwneud y gorau o offer yn y cartref
Staff Cysylltu Cymru’n dechrau gweithio o bell
Mae Cysylltu Cymru yn llwyfan canolfan gyswllt penigamp a rennir ar gyfer cynghorau a sefydliadau sector cyhoeddus eraill ledled Cymru. Aeth yn fyw gyda’i gwsmeriaid cyntaf ym mis Ionawr 2020, ar yr adeg y daeth y coronofeirws i’r amlwg. Mae ei ganolfannau cyswllt cwmwl rhithwir wedi’u dylunio gan FourNet ar gyfer gweithio o bell a phan gyhoeddwyd y cyfnod cloi mawr cyntaf, manteisiwyd i’r eithaf yn gyflym iawn ar y potensial hwnnw.
Ystadegau Allweddol
6
Chanolfan Gyswllt
140
o Asiantau
1M
Poblogaeth o
4
Ardal Gyngor
Cefndir
Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro oedd y cwsmeriaid cyntaf i ymuno â Cysylltu Cymru, gan eu galluogi i rannu technoleg a gwasanaethau trwy fframwaith sector cyhoeddus. Oherwydd pandemig y coronafeirws a chanllawiau’r llywodraeth i gadw pellter cymdeithasol o 2m, mae gweithio o bell wedi dod yn angenrheidiol. Hefyd roedd angen llinell gymorth argyfwng newydd er mwyn rhoi cyngor i ddinasyddion agored i niwed.
Mae ail gyngor mwyaf Cymru, Rhondda Cynon Taf, wedi manteisio ar y llwyfan er mwyn galluogi derbynwyr galwadau i weithio gartref.
Datrysiad
Mae Cysylltu Cymru yn ddatrysiad cwmwl cymunedol sy’n galluogi rhannu adnoddau prin a sgiliau. Mae hyblygrwydd y llwyfan a’r fframwaith caffael yn addasu’n gyson er mwyn bodloni gofynion newydd sector cyhoeddus Cymru a’r technolegau diweddaraf, gan gynnwys Microsoft Teams. Mae’n galluogi cynghorau i greu canolfannau cyswllt rhithwir a cynyddu’r cyfle i weithio o bell. Mae FourNet wedi sicrhau pontio didrafferth ac effeithlon o weithio mewn swyddfa i weithio o bell ar gyfer cymaint o aelodau o staff â phosibl. Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi galluogi 40 o ddebynwyr galwadau a 5 aelod o staff goruchwylio i weithio gartref yn ôl yr angen. Mae’n golygu y gall y Cyngor gefnogi trigolion trwy roi help a chymorth – tra’n diogelu staff hefyd. Mae wedi galluogi sefydlu llinell gymorth newydd er mwyn cefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned. Mae hefyd wedi’r rhoi hyblygrwydd i staff iddynt ymdopi â’u hamgylchiadau personol eu hunain – er enghraifft gofal plant, gofalu am berthnasau oedrannus a lleihau’r risg i aelodau agored i niwed ar yr aelwyd Mae Cysylltu Cymru wedi sicrhau y gall staff, gan gynnwys y rheiny yn Rhondda Cynon Taf, barhau i fod yn gynhyrchiol heb gael eu rhoi ar ffyrlo. Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hefyd wedi sefydlu tîm newydd i drefnu profion COVID-19 ar gyfer gweithwyr allweddol a chleifion y disgwyliwyd iddynt gael llawdriniaeth a staff cartrefi gofal.
Effaith
Er i ni ragweld y byddai gweithio o bell yn flaenoriaeth i Cysylltu Cymru, ni ddisgwylion ni y byddai’r rhan fwyaf o’n cyflogeion yn gweithio gartref o fewn ychydig ddiwrnodau ac am gyfnod mor hir. Mae pandemig y coronfeirws wedi profi cysyniad Cysylltu Cymru a gyda chymorth FourNet, cafwyd y pontio mwyaf didrafferth posibl a chadw pellter cymdeithasol, i weithio.
Rob Thomas
Rheolwr Gyfarwyddwr, Cyngor Bro Morgannwg
Cysyniad Cysylltu Cymru yw datrysiad cwmwl rhithwir perffaith sy’n galluogi pobl i weithio o le bynnag yr hoffent heb effeithio’n niweidiol ar wasanaethau. Rydym wedi manteisio i’r eithaf ar y cyfle i weithio o bell er mwyn galluogi staff i barhau i wneud eu gwaith yn ystod cyfnodau anodd, ac mae’r dechnoleg wedi’u galluogi i adael iddynt deimlo eu bod yn gweithio o’u swyddfa.
Andy Patrick
Cyfarwyddwr Cyfrif, FourNet